
I S O S T A S Y
Mae’r ffilm fer artistig hon yn cyd-daro â 120 o flynyddoedd ers i Edgar Evans o Rosili hwylio ar y Discovery gyda Chapten Scott ar ei fordaith gyntaf i Antarctica.
Cerys Matthews, y gantores a’r gyflwynwraig ar BBC 6, sy’n lleisio’r ffilm farddonol, ffilm sydd wedi’i hysbrydoli gan y fordaith a chan gyflwr y cyfandir mawr gwyn heddiw. Mae Antarctica yn wynebu cyfnod tyngedfennol oherwydd y newid yn yr hinsawdd, ac mae’r ffilm yn cwestiynu ac yn herio’r modd y mae ein gweithredoedd ni fel pobl yn effeithio ar yr amgylchedd.
Yn ffrwyth cydweithio unigryw rhwng Simon Clode, y gwneuthurwr ffilmiau o Gymru, a Marc Rees, yr artist amlddisgyblaethol, mae I S O S T A S Y yn myfyrio am hanes cyffredin ein planed, ac am ei dyfodol. Mae’n cynnwys arteffactau prin o Amgueddfa Abertawe (storfa’r amgueddfa yw’r prif leoliad); recordiadau o’r maes gan Chris Watson, recordydd sain David Attenborough; a geiriau Philip Hoare, yr awdur nodedig a’r arbenigwr ar forfilod.
“Ymateb yw ISOSTASY i argyfwng anweledig, mor anweledig â’r morfil. Welwn ni ddim mo’r anifail mwyaf ar y blaned, ac yn yr un modd, rydyn ni’n anwybyddu ein cyfandir mwyaf sydd heb bobl. Mae angen inni ddangos y gwirionedd.” - Philip Hoare
Bydd I S O S T A S Y yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar BBC2 Cymru am 11.15yn ar 5ed o Awst ac wedyn ar iPlayer o’r 6ed
CREDITS
Cyfarwyddwyd gan Simon Clode & Marc Rees
Cysyniad | Cynllunio Marc Rees
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth | Grad Lliw Matt Smith
Cynhyrchydd | Golygydd Simon Clode
Awdur Phlip Hoare
Cán Morfilod Chris Watson
Llias Cerys Matthews
Cyfansoddwr Victoria Ashfield
Prif Gymeriad Anthony Evans
Cymysgydd dybio Nicholas Davies / Meteor Sounds
Golygydd Effeithiau Sain Owen Peters AMPS
Cyfieithydd Rhys Iorwerth
Dylunio Graffig Oliver Norcott
Cynhyrchydd Creadigol Isabel Griffin
Supported by Arts Council of Wales, UK Antarctic Heritage Trust
Diolch arbennig , Swansea Museum, Swansea Council , Swansea Art College | UWTSD, Sud Basu, Talina Jones and Karl Morgan